Ymweliadau Ysgolion a Grwpiau

Hwyl, Difyrrwch ac Ysbrydoliaeth i Blant

Os ydych yn edrych am hwyl, datblygiad, addysg, neu bach o popeth, bydd disgyblion a grwpiau o bob oed yn siŵr o gael amser i’w gofio ym Mharc Fferm Manorafon. I archebu ymweliad ar gyfer eich Ysgol/Grŵp e-bostiwch hannah.b@manorafon.co.uk

Cyflwyno Ymholiad

Prisiau Ysgolion 2026

o £8.95 y pen*

(heb gynnwys TAW)

Beth sydd wedi’i gynnwys?

Cyfarfod yr Anifeiliaid

Ewch draw i Lwybr y Cae gyda chwpan o fwyd anifeiliad i ddweud helo wrth ein moch, geifr, alpacas, defaid, merlod ac asynnod. Ewch i weld ein rhywogaethau mwy egsotig yn Nhŷ’r Ymlusgiaid.

Cornel Cwtch

Gyda cymorth gan ein Ffermwyr, dewch i cwrdd a'n ffrindiau bach yn Y Cornel Cwtch. Yn dibynnu ar y tymor, cewch gyfle i ddod yn agos at gwningod, moch cwta neu cyw bach.

Chwarae

Dewch i gael hwyl yn ein ardaloedd chwarae awyr agored fel y clustogau neidio. Mae yma ardal chwarae dan do hefyd gan gynnwys Chwarae Meddal.

Helfa Deinasoriaid

Gafaelwch yn eich cerdyn crwydro ac ymunwch â’r helfa gan gerdded o amgylch ein deinasoriaid anomatronig mawr. A fyddwch chi’n llwyddo i ddod o hyd i bob un?

Ras Foch

Dewch i greu eich baneri eich hun a chefnogi eich hoff fochyn. Cynhelir y Râs Foch unwaith neu ddwywaith y dydd yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn.

Ardal dan do

Gall pob ysgol a grŵp ddefnyddio ein byrddau picnic yn ein pabell Ysgolion/Grwpiau. Gallwch ddefnyddio’r ardal hon drwy gydol eich ymweliad.

NEWYDD Llyfr gwaith

Bydd pob plentyn yn derbyn llyfr gwaith wedi’i ysbrydoli gan y cwricwlwm sy’n cynnwys tasgau i’w cwblhau cyn ac ar ôl eich ymweliad. Mae’r llyfrau wedi’u hargraffu a’r unig beth sydd ei angen yw cás pensiliau.

Map

Testimonials

"Diolch am ddiwrnod gwych! Roedd y plant wrth eu bodd ac, fel staff, dyma'r daith lleiaf o straen dan ni erioed did bod ar gyda nhw! Diolch yn fawr!"

Mrs Davies, Ysgol Bro Gwydir, 2025

"Diolch yn fawr am bopeth cyn y daith, a diolch i Beca am bopeth yn ystod ein taith. Cawsom ni'r amser GORAU! Roedd y adborth gan disgyblion a’r staff yn anhygoel! Roedd y trefniadaeth cyn y daith ac yn ystod yn rhagorol."

Mrs Roberts, Ysgol y Graig, 2025

"Diolch am wneud y daith yn brofiad gwych i’r plant ac yn syml i ni fel athrawon hefyd. Byddwn yn gobeithio gwneud taith debyg eto yn fuan. Roedd popeth wedi’i drefnu’n ardderchog a’r plant wedi cael amser gwych."

Miss Catrin Lines, Ysgol Dewi Sant, 2025

Arweiniad ar Gadw’n Ddiogel yn ystod eich Ymweliad

Lawrlwytho’r Cod Ymarfer

Submit Enquiry